top of page

Datganiad o Genhadaeth

 

Wrth droedio llwybr dysgu mae symbyliad a mwynhâd yn hanfodol.  Wrth danio'r dychymyg 

 

ac ennyn chwilfrydedd anogir pob dysgwr i herio'i hun i chyrraedd ei lawn botensial.

 

 

Croeso i Gwmni Taro Nod

 

Croeso mawr i Gwmni Taro Nod.  Menter gyffrous yw hon sydd yn edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion Cymraeg yn y dyfodol.

 

Bwriad y cwmni yw darparu gwasanaethau safonol yn seiliedig ar brofiad, cymhwysterau, brwdfyrdedd a phartneriaeth gydag ysgolion.

 

Ein nod yw cynnig gwasanaeth i holl ysgolion Cymraeg dinas Caerdydd a thu hwnt.


Osian Leader - Cyfarwyddwr Cwmni Taro Nod

 

Mae gan Osian dros ugain mlynedd o brofiad mewn amryw ysgolion yn y ddinas a'r cymoedd.  Mae ganddo brofiad helaeth o ddysgu yn y Cyfnod Sylfaen, yr Adran Iau ac o fewn Uned Anghenion Arbennig trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.   Mae e hefyd yn gydlynydd pwnc profiadaol, llwyddiannus ac wedi arwain Mathemateg, Gwyddonaieth, Technoleg Gwybodaeth ac Addysg Gorfforol. 

Mae ganddo brofiad helaeth ym maes rheolaeth yr ysgol gynradd trwy fod yn fentor i Fyfyrwyr ac Athrawon Newydd eu Cymhwyso, Arweinydd Datblygiad Proffesiynol a Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.  Mae e hefyd wedi bod yn Arweinydd yr Adran Iau ac yn Ddirprwy Bennaeth gyda chymhwyster CPCP (Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth).    

Ar wahân i addysg mae Osian yn gefnogwr brwd o dîm rygbi'r Gleision ac yn cefnogi tîm pêl droed Caerdydd.  Mae e'n gyn-chwaraewr gyda Chlwb Rygbi Cymry Caerdydd ac erbyn hyn yn mwynhau Taekwondo, seiclo a 'chymdeithasu' pan ddaw'r cyfle.  Mae e'n canu'r piano a'r gitâr ac yn cyfansoddi o bryd i'w gilydd.   Mae e bellach yn astudio cwrs rhan amser ym Mhrifysgol De Cymru er mwyn hyfforddi fel seicotherapydd gyda'r bwriad o gynnig gwasanaeth i ysgolion yn y dyfodol yn seiliedig ar y cymhwyster hwn. 

bottom of page