

Hyfforddiant Staff Cwmni Taro Nod
Credwn y dylai pob aelod o staff y cwmni gael y cyfle i dderbyn hyfforddiant sy'n gyfoes, yn gyfredol a pherthnasol. Rydym yn darparu hyfforddiant i holl staff y cwmni trwy ein system partneriaeth, a'r arbenigedd o fewn y cwmni a'r defnydd o asiantaethau allanol. Mae hyn yn creu cyfleodd datblygu staff, ac hwyluso'r berthynas sydd gennym gyda'r ysgolion, yn ogystal รข sicrhau ein bod yn darparu staff o'r safon uchaf.


HMS Cymorth Cyntaf
Dydd Gwener Mawrth 27ain 2015.
Cwrs Lefel 2 Cymorth Cyntaf Argyfwng
yn y Gweithle gyda phrotocolau pediatirg.
Diolch i bawb yng Nghanolfan Cymorth
Gwyliwch ein fidio byr o weithgareddau'r
dwirnod.

HMS Taro Nod
Dyddiad i'w benodi.
Cyflwyno'r cwmni yn ffurfiol a'r hyn sydd yn ddisgwyliedig gan staff Cwmni Taro Nod. Fe fydd Aelod o Uwch Dim Rheoli yr ysgolion yno hefyd i gynnig mewnbwn i staff y cwmni er mwyn cael deall yn llawn disgwyliadau o safbwynt yr ysgolion. Cyfle hefyd i rannu profiadau ac i ddysgu oddi wrth athrawon profiadol eraill.

HMS Llythrennedd
Dyddiad i'w benodi.
Cyfle i staff y cwmni cael gwybodaeth a dysgu am y dulliau dysgu ac addysgu sydd yn gydoes o fewn ysgolion o ystyried dysgu Llythrennedd. Fe fyddwn yn cael ein tywys gan ymarferwr profiadol safonol trwy dulliau dysgu ac addysgu cyfoes agweddau, llythrennedd ar draws y Cwricwlwm a disgwyliadau o ystyried y Fframwaith Llythrennedd, .

HMS Rhifedd
Dyddiad i'w benodi.
Diwrnod ar yr hyn sy'n gyfoes o fewn ysgolion o ystyried dulliau dysgu ac addysgu Rhifedd. Trafod enghreifftiau o rhifedd ar draws y cwricwlwm a'r hyn sy'n ddisgwyliedig o ystyried y Fframwaith Rhifedd. Fe fydd hyn i gyd o dan oruchwiliaeth ymarferwyr safonol a phrofiadol.


