top of page
Taro Nod
TARO NOD
Gweithio Gyda'n Gilydd i Grymuso Ysgolion ac Athrawon



Wrth droedio llwybr dysgu mae symbyliad a mwynhâd yn hanfodol. Wrth danio'r dychymyg
ac ennyn chwilfrydedd anogir pob dysgwr i herio'i hun i chyrraedd ei lawn botensial.
Croeso i Gwmni Taro Nod
Croeso mawr i Gwmni Taro Nod. Menter gyffrous yw hon sydd yn edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion Cymraeg yn y dyfodol.
Bwriad y cwmni yw darparu gwasanaethau safonol yn seiliedig ar brofiad, cymhwysterau, brwdfrydedd a phartneriaeth gydag ysgolion.
Ein nod yw cynnig gwasanaeth i holl ysgolion Cymraeg dinas Caerdydd a thu hwnt.
Adolygiadau
Mae Taro Nod yn gwmni gwych i weithio iddo, maent yn gymwynasgar, cefnogol ac yn deall problemau staff cyflenwi. Maent yn rhoi fy muddiannau gorau wrth galon ac yn dod o hyd i waith sy'n addas i mi, gan ystyried fy mhrofiadau a'm bywyd cartref. Rwy'n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi fel unigolyn a gweithiwr proffesiynol, ac maent yn onest, yn gefnogol ac yn wych i weithio gyda nhw.
A. Hill
Rwyf wedi gweithio i asiantaeth Taro Nod ers bron i saith mlynedd ac maent yn gefnogol, yn darparu gwasanaeth o safon, ac yn meithrin perthynas dda gydag ysgolion. Mae lles staff yn flaenoriaeth i'r cwmni, sy'n cynnig cyngor a hyfforddiant. Byddwn yn annog unrhyw un sydd am weithio mewn addysg i ymuno â Taro Nod.
T. Jones
Rydw i wedi gweithio i gwmni Taro Nod am tua 8 mlynedd ac maent yn broffesiynol, cyfeillgar a chynorthwyol iawn. Maent yn wych yn ffeindio gwaith, hyd yn oed ar fyr rybudd, ac mae Mags wastad ar gael os oes problem. Rwy'n teimlo'n ddiogel a hapus yn gweithio gyda nhw, gan wybod eu bod yn edrych ar fy ôl.
A. Davies
Ein Blog



bottom of page