Taro Nod
Amdanom Ni
Gyda blynyddoedd o brofiad yn y sector addysg, mae Mags ac Osian yn arbenigo mewn cefnogi plant a phobl ifanc.
Rydym yn cynnig arbenigedd mewn Cyfnod Sylfaen, yr Adran Iau ac Anghenion Arbennig, gan ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Ein nod yw creu profiadau dysgu positif a chynhwysol i bob plentyn.
Y tîm
Mags
​
Mae gan Mags 16 mlynedd o brofiad mewn ysgolion amrywiol yn y ddinas ac yn y cymoedd. Mae ganddi brofiad helaeth o ddysgu yn y Cyfnod Sylfaen, yr Adran Iau ac o fewn Uned Anghenion Arbennig trwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg. Mae hi hefyd yn gydlynydd pwnc profiadol, llwyddiannus ac wedi arwain Saesneg ac Addysg Gorfforol. Bu hefyd yn Arweinydd yr Adran Blynyddoedd Cynnar yn datblygu y Cyfnod Sylfaen.
Yn ogystal, mae ganddi brofiad helaeth yn y maes Weinyddol. Mae hi wedi gweithio mewn ysgolion yng Nghymru, Lloegr a’r Shetlands, Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Twristiaeth Cymru, Awdurdod Iechyd a Chynghorau Sir Ceredigion, Dyfed-Powys a Chaerfyrddin.
Tu hwnt i addysg mae Mags yn cefnogi tîm rygbi’r Scarlets. Mae hi’n Gwirfiddoli ar Sialens Cymru (hwylio), seiclo, cerdded, nofio, trafeulu a edrych ar Cymru yn chwarae rygbi!
Ers 2019 mae hi bellach yn Gyfarwyddwr Taro Nod. Mae hi hefyd yn Diwtor yn Mathemateg, Cymraeg a Saesneg.
​
​
Osian
​
Mae gan Osian dros ugain mlynedd o brofiad mewn amryw ysgolion. Mae wedi dysgu yng Nghyfnod Sylfaen, yr Adran Iau ac Uned Anghenion Arbennig, trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Mae wedi arwain Mathemateg, Gwyddoniaeth, TGCh, ac Addysg Gorfforol.
Mae ganddo brofiad helaeth mewn rheolaeth ysgolion cynradd, mentora myfyrwyr ac athrawon newydd gymhwyso, arwain datblygiad proffesiynol a chydlynu AAA. Bu'n Bennaeth yr Adran Iau a Dirprwy Bennaeth gyda chymhwyster CPCP.
​
Heblaw am addysg, mae Osian yn gefnogwr brwd o Rygbi Caerdydd a phêl-droed. Mae'n mwynhau Taekwondo, seiclo a chymdeithasu. Mae'n canu'r piano a'r gitâr ac yn cyfansoddi cerddoriaeth.
Mae Osian bellach yn gweithio fel Seicotherapydd.